Cod y Dioddefwyr
Os ydych chi wedi bod yn ddioddefwr trosedd, mae gennych chi’r hawl i gael gwybod am y broses cyfiawnder troseddol a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Mae rhai safonau y gallwch eu disgwyl gan asiantaethau cyfiawnder troseddol, fel yr heddlu, y llys a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).
Cod y Dioddefwyr yn egluro'r hawliau y gallwch ddisgwyl eu derbyn.
Fel dioddefwr mae gennych yr hawl:
- Gallu deall a chael eich deall
- I gael manylion y drosedd wedi'u cofnodi heb oedi anghyfiawn
- I gael gwybodaeth wrth riportio'r drosedd
- I gael eich atgyfeirio at wasanaethau sy'n cefnogi dioddefwyr ac sydd â gwasanaethau a chymorth wedi'u teilwra i'ch anghenion
- I gael gwybodaeth am iawndal
- I gael gwybodaeth am yr ymchwiliad a'r erlyniad
- I wneud Datganiad Personol Dioddefwr
- I gael gwybodaeth am yr achos, proses yr achos a'ch rôl fel tyst
- I gael gwybodaeth am ganlyniad yr achos ac unrhyw apeliadau
- I gael eich talu am dreuliau a chael eich eiddo yn ôl
- I gael gwybodaeth am y troseddwr yn dilyn euogfarn
- I wneud cwyn am nad yw eich hawliau’n cael eu cyflawni.
Os ydych chi'n teimlo nad yw eich hawliau o dan y Cod Dioddefwyr wedi cael eu bodloni, gallwch wneud cwyn yn uniongyrchol i'r sefydliad dan sylw. Er enghraifft, eich heddlu lleol, y CPS neu'r llys.
Os nad ydych chi'n fodlon â'r ymateb i'ch cwyn, gallwch ofyn i'ch aelod seneddol (AS) i'w gyfeirio at y Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Gallwch ymweld â'r dolenni canlynol i gael rhagor o wybodaeth am y Cod Dioddefwyr:

