Mae'r Gwasanaeth Tystion wedi symud

Mae'r Gwasanaeth Tystion bellach yn cael ei ddarparu gan Gymorth i Ddioddefwyr. Nid yw'n cael ei ddarparu gan Gyngor ar Bopeth mwyach. Gallwch archwilio'r wefan hon i gael gwybod mwy am y Gwasanaeth Tystion a'r gefnogaeth a gynigiwn.

I wneud atgyfeiriad i'r Gwasanaeth Tystion, ar eich rhan eich hun neu ar ran rhywun arall, llenwch ein ffurflen atgyfeirio.

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen os ydych chi'n:

  • tyst
  • aelod o'r teulu neu ffrind tyst
  • rhywun sydd angen cefnogaeth yn y llys oherwydd bod rhywun rydych chi'n ei adnabod wedi marw
  • neu weithiwr proffesiynol o sefydliad yn cyfeirio rhywun am gymorth gan y Gwasanaeth Tystion.

Mae'r ffurflen yn caniatáu ichi ddweud wrthym sut orau i gefnogi eich anghenion, neu anghenion y person rydych chi'n ei gyfeirio.

Llun o ddyn mewn crys a throwsus patrymog streipiog glas yn gwenu mewn sgwrs â menyw â gwallt hir melyn a chrys streipiog pinc, ar soffa beige mewn man aros.