Llys y Goron

Mae Llysoedd y Goron yn ymdrin â'r achosion troseddol mwyaf difrifol, fel treisio, llofruddiaeth a dynladdiad. Maent hefyd yn clywed apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir mewn llysoedd ynadon ac yn ymdrin ag unrhyw achos y mae ynad yn ei anfon i Lys y Goron i'w dreialu neu i'w ddedfrydu.

Mae gan Lysoedd y Goron farnwr a rheithgor. Rôl y rheithgor yw penderfynu a yw'r diffynnydd yn euog ai peidio. Rôl y barnwr yw penderfynu ar y ddedfryd neu'r gosb os ceir y diffynnydd yn euog.

Mae rheithgorau’n cynnwys 12 o bobl. Aelodau o’r cyhoedd yw’r rhain sydd wedi cael eu galw i wasanaethu ar reithgor ac nid ydynt yn weithwyr proffesiynol cyfreithiol. Rôl rheithgor yw gwrando ar y dystiolaeth a gyflwynir gan yr amddiffyniad a’r erlyniad ac yna penderfynu a yw’r diffynnydd yn euog ai peidio.

Fel arfer, mae'r llys yn gofyn am ddyfarniad unfrydol gan bob un o'r 12 rheithiwr. Mae dyfarniad unfrydol yn golygu bod holl aelodau'r rheithgor yn cytuno ar yr un penderfyniad. Fodd bynnag, weithiau efallai na fydd aelodau'r rheithgor yn cytuno, ac os bydd hyn yn digwydd yna gall barnwr ofyn iddynt basio dyfarniad mwyafrif. Os bydd hyn yn digwydd, mae angen i o leiaf 10 ohonynt gytuno. Os na all 10 aelod o'r rheithgor gytuno, gelwir hyn yn rheithgor crog. Bydd yr erlyniad yn trosglwyddo'r achos yn ôl i Wasanaeth Erlyn y Goron a byddant yn penderfynu a oes digon o dystiolaeth i gael ail-dreial gyda rheithgor newydd.

Mae barnwr yn goruchwylio gwrandawiad Llys y Goron a'u cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod y diffynnydd yn cael treial teg. Mewn achosion lle mae rheithgor yn canfod diffynnydd yn euog, bydd y barnwr yn rhoi'r ddedfryd.

Y Tu Mewn i Lys y Goron

Mae'r llys rhyngweithiol hwn yn darparu gwybodaeth fanylach am bwy yw pwy a beth i'w ddisgwyl mewn Llys y Goron. Cliciwch y botwm isod i archwilio'r llys.