Dewch o hyd i wybodaeth am bob math o lys isod ac archwiliwch ein llysoedd rhyngweithiol:
Ynadon
Mae pob achos troseddol yn dechrau mewn llys ynadon, ac mae'r rhan fwyaf o achosion yn gorffen yno hefyd. Mae llysoedd ynadon yn delio â thri math o achosion troseddol: troseddau cryno, troseddau naill ffordd neu'r llall, a throseddau ditiadwy yn unig.
Y Goron
Mae Llysoedd y Goron yn ymdrin â'r achosion troseddol mwyaf difrifol, fel treisio, llofruddiaeth a dynladdiad. Maent hefyd yn clywed apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir mewn llysoedd ynadon ac yn ymdrin ag unrhyw achos y mae ynad yn ei anfon i Lys y Goron i'w dreialu neu i'w ddedfrydu.
Ieuenctid
Mae llys ieuenctid yn fath o lys ynadon ar gyfer diffynwyr rhwng 10 a 17 oed. Fel llys ynadon, mae'n cael ei arwain gan dri ynad neu farnwr rhanbarth. Nid oes gan lysoedd ieuenctid reithgorau, ac maent yn llai ffurfiol na llys oedolion.
Llysoedd Barn Brenhinol
Mae'r Llysoedd Brenhinol Cyfiawnder yn adeilad llys ar y Strand yn Llundain sy'n gartref i'r Uchel Lys a Llys Apêl Cymru a Lloegr.

