Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr

Mae'r Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr yn wasanaeth a redir yng Nghymru a Lloegr gan Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth Ei Mawrhydi (HMPPS).

Mae'n darparu cefnogaeth a gwybodaeth i ddioddefwyr troseddau difrifol ar ôl i droseddwr gael ei gollfarnu a'i ddedfrydu. Gall perthnasau agos sydd wedi galaru rhywun sydd wedi cael ei ladd o ganlyniad i drosedd ymuno â'r cynllun hefyd.

Efallai y byddwch yn gymwys i ymuno â'r Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr os:

  • rydych chi wedi profi trosedd rhywiol neu dreisgar, neu wedi colli rhywun oherwydd llofruddiaeth ac
  • caiff y troseddwr ei ddedfrydu i 12 mis neu fwy yn y carchar.

Os penderfynwch ymuno â'r cynllun, bydd swyddog cyswllt dioddefwyr yn cysylltu â chi i roi'r wybodaeth ganlynol i chi:

  • am ba hyd y bydd y troseddwr yn y carchar
  • os oes unrhyw newidiadau i'w dedfryd
  • pryd y byddant yn cael eu rhyddhau
  • os ydyn nhw'n barod am barôl, a phryd fydd y gwrandawiad parôl yn digwydd
  • sut allwch chi wneud Datganiad Personol Dioddefwr ar gyfer y Bwrdd Parôl os ydych chi eisiau, a sut i herio penderfyniad parôl
  • sut i wneud cais am 'amod trwydded' – mae hyn yn atal y troseddwr rhag gwneud pethau penodol pan fyddant yn cael eu rhyddhau, fel cysylltu â chi.

Gallwch ddod o hyd rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr ar wefan GOV.UK.