Cyrraedd y llys
Gall cymryd amser i gynllunio eich taith ymlaen llaw eich helpu i osgoi pryder ychwanegol ar y diwrnod a sicrhau eich bod yn cyrraedd adeilad y llys mewn pryd. Gallwch hawlio treuliau teithio am fynychu'r llys fel tyst.
Defnyddiwch y botwm chwarae isod i ddarllen yn uchel.
Mynedfa'r llys
Bydd gan bob llys brif fynedfa. Dyma'r ffordd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd i mewn i'r llys. Os ydych chi'n ofnus neu'n poeni am ddod trwy'r brif fynedfa a gweld pobl sy'n rhan o'r achos, efallai y bydd modd trefnu mynediad i'r llys trwy fynedfa ar wahân. Gall y Gwasanaeth Tystion neu swyddog yr Uned Gofal Tystion drefnu hyn i dystion cyn mynychu'r llys.
Defnyddiwch y botwm chwarae isod i ddarllen yn uchel.
Hygyrchedd
Mae pob llys yn wahanol ac mae rhai yn fwy hygyrch nag eraill. Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, neu os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch, gallwch siarad â chefnogwr Gwasanaeth Tystion am eich anghenion mynediad.
Defnyddiwch y botwm chwarae isod i ddarllen yn uchel.
Beth i ddod gyda chi
Efallai yr hoffech ystyried dod â rhai pethau gyda chi, gan y bydd yn rhaid i chi aros cyn rhoi eich tystiolaeth, yn ôl pob tebyg. Er enghraifft:
- Llyfr, cylchgrawn, tegan, gêm, ffôn neu dabled.
- Byrbrydau, diodydd neu arian i brynu'r rhain o'r caffi neu'r peiriant gwerthu – os ydynt ar gael.
- Meddyginiaeth gan y meddyg, os oes ei hangen arnoch chi.
- Sgarff, siwmper neu siaced rhag ofn i chi gael oerfel.
Gallwch ddod â diodydd gyda chi. Os oes unrhyw ddiodydd ar agor, neu mewn fflasg, potel neu gwpan, bydd y swyddog diogelwch yn gofyn i chi gymryd sip i brofi nad yw'r cynnwys yn niweidiol. Gelwir hyn yn 'prawf sipian'.
Mae rhai eitemau na chaniateir i chi eu dwyn i mewn i adeiladau llys. Er enghraifft, ni allwch ddod ag unrhyw gyllyll na arfau, eitemau miniog nac unrhyw beth y gellid ei ddefnyddio i niweidio unrhyw un arall, nac unrhyw hylifau nad ydynt yn ddiodydd nac yn feddyginiaeth bresgripsiwn (gan gynnwys persawr).
Defnyddiwch y botwm chwarae isod i ddarllen yn uchel.

