Os na allwch fforddio mynd i’r llys, dylech gysylltu â swyddog eich Uned Gofal Tystion neu’r cyfreithiwr amddiffyn ac egluro’r sefyllfa.

Gall mynychu’r llys olygu costau ariannol annisgwyl o bethau fel teithio, gofal plant, parcio a lluniaeth. Yn dibynnu ar eich cyflogaeth, efallai y bydd angen i chi gymryd diwrnod i ffwrdd o’r gwaith (a allai fod yn ddi-dâl) neu wrthod gwaith os ydych chi’n hunangyflogedig.

Gallwch hawlio treuliau a lwfans am fynychu’r llys fel tyst.