Pan gyrhaeddwch y llys, byddwch yn mynd trwy'r broses ddiogelwch ac yna'n aros nes i chi gael eich galw i roi eich tystiolaeth.
Os ydych chi'n dyst agored i niwed neu dan fygythiad, gall y Gwasanaeth Tystion drefnu mynedfa ar wahân a man aros preifat. Bydd cefnogwr y Gwasanaeth Tystion ar gael i aros gyda chi, esbonio proses y llys, ac ateb unrhyw gwestiynau – ond ni fyddant yn trafod eich tystiolaeth na manylion yr achos gyda chi.
Cael gwybod mwy am beth i'w ddisgwyl pan gyrhaeddwch y llys.


Gadewch Sylw