Gallwch hawlio treuliau am gostau rydych chi wedi'u profi oherwydd bod yn dyst mewn achos llys. Gall y costau hyn gynnwys teithio, bwyd, colli enillion a gofal plant. Mae symiau penodol y gallwch eu hawlio.

Os ydych chi'n dyst i'r erlyniad, Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) sy'n gyfrifol am dalu'r treuliau hyn ac mae'n anelu at dalu hawliadau dilys o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gallwch hawlio treuliau ar-lein yn y ddolen ganlynol: hawlio-treuliau-tyst.cps.gov.uk

Os ydych chi'n dyst dros yr amddiffyniad, gallwch ofyn i gyfreithiwr yr amddiffyniad ynglŷn â hawlio treuliau.

Bydd angen i chi gadw'ch holl dderbynebau ar gyfer y treuliau rydych chi'n hawlio amdanynt, fel y gallwch chi atodi'r rhain i'ch ffurflen hawlio, neu eu huwchlwytho os ydych chi'n cwblhau'r hawliad ar-lein.