Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ychwanegol yn y llys i’ch helpu i deimlo’n fwy hamddenol ac i roi eich tystiolaeth orau.

Gelwir hyn yn 'fesurau arbennig' – sef pethau y gall y llys eu darparu neu eu gwneud i'ch tawelu a gwneud eich profiad o roi tystiolaeth mor gyfforddus â phosibl. Gall tystion sy'n agored i niwed neu dan fygyr ofyn am fesurau arbennig.

Nid ydynt yn cael eu caniatáu’n awtomatig – bydd angen i’r CPS wneud cais ymlaen llaw i’r llys i ofyn am y mesurau arbennig yr ydych chi’n credu a fyddai’n eich helpu i roi eich tystiolaeth orau.

Bydd y barnwr neu’r ynad yn penderfynu pa fesurau arbennig y gellir eu rhoi yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir yn y cais.

Mae gennym wybodaeth bellach ar mesurau arbennig y gallwch ei archwilio.