Os ydych chi'n dyst i'r erlyniad, bydd swyddog o'r Uned Gofal Tystion yn cysylltu â chi ac yn dweud wrthych pryd mae angen i chi fynychu'r llys. Byddwch hefyd yn derbyn llythyr sy'n dweud wrthych chi beth yw dyddiad eich llys a pha lys y mae angen i chi fynd iddo.
Os ydych chi'n dyst dros yr amddiffyniad, bydd eich cyfreithiwr amddiffyn yn rhoi gwybod i chi am y dyddiad a'r amser y bydd angen i chi fynd i'r llys. Gallant roi dyddiad penodol neu gyfnod o 2–4 wythnos i chi aros yn rhydd.


Gadewch Sylw