Mae hyn yn dibynnu ar sawl ffactor. Os ydych chi'n dyst i'r erlyniad, bydd swyddog yr Uned Gofal Tystion a'r Gwasanaeth Tystion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r achos fynd yn ei flaen. Os ydych chi'n dyst i'r amddiffyniad, bydd cyfreithiwr yr amddiffyniad neu aelod o'r tîm amddiffyn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.