Pan fydd hi'n amser rhoi eich tystiolaeth, bydd cynorthwyydd llys yn eich casglu o'r ardal aros ac yn mynd â chi i'r ystafell llys.

Byddan nhw'n dangos i chi ble i sefyll – gelwir hyn yn flwch y tystion – ac yn eich helpu i gymryd eich llw neu gadarnhad, sef eich addewid i ddweud y gwir. Gallwch naill ai dyngu llw ar lyfr sanctaidd neu wneud cadarnhad anghrefyddol.

Unwaith i chi dyngu llw, bydd y cyfreithiwr a’ch galwodd chi fel tyst yn gofyn cwestiynau i chi i’ch helpu i esbonio beth ddigwyddodd. Pan fyddan nhw’n gorffen, bydd y cyfreithiwr arall yn gofyn cwestiynau hefyd – gelwir hyn yn groesholi. Gall y cwestiynau hyn deimlo’n fwy heriol gan fod yr ochr arall eisiau profi hygrededd eich tystiolaeth neu dynnu sylw at unrhyw anghysondebau.

Os ydych chi'n ansicr beth sy'n cael ei ofyn, gallwch ofyn i'r cyfreithwyr ailadrodd cwestiwn neu ei ddweud mewn ffordd wahanol. Os nad ydych chi'n gwybod yr ateb i gwestiwn, gallwch ddweud hynny: ni ddylech chi byth ddyfalu na llunio ateb os ydych chi'n ansicr.