Os gwnaethoch ddatganiad – boed i’r heddlu neu i aelod o’r tîm amddiffyn – efallai y gofynnwyd i chi lofnodi’r datganiad yn cytuno i fynychu’r llys fel tyst.

Os gofynnwyd i chi fynychu’r llys, mae’n debygol iawn y bydd angen i chi roi tystiolaeth.

Os penderfynwch beidio â mynychu, gall yr ynad neu'r barnwr gyhoeddi gwŷs yn gofyn i chi ddod i'r llys. Mewn rhai achosion, os na fyddwch yn mynychu o hyd, gellir cyhoeddi gwarant i'ch arestio, a chewch eich dwyn i'r llys i esbonio pam eich bod wedi gwrthod mynychu o'ch gwirfodd.