Nid yw'n ddoeth dod â phlant i'r llys (oni bai eu bod yn dystion) oherwydd nid yw'r llys yn amgylchedd addas i blant ifanc.
Ni fydd gofal plant ar gael yn adeilad y llys tra byddwch chi'n rhoi tystiolaeth, ac ni all y Gwasanaeth Tystion ofalu am unrhyw blant yn y llys oni bai eu bod yn dystion.
Os oes gennych blant oedran ysgol, gallech ystyried gofyn i ffrind neu aelod o'r teulu eich helpu trwy eu gollwng a'u casglu o'r ysgol. Gall ysgolion hefyd fod o gymorth gyda chlybiau ar ôl ysgol ond os nad yw hyn yn bosibl neu os oes gennych unrhyw broblemau, dywedwch wrth y person a'ch gwahoddodd i fynychu'r llys (swyddog yr Uned Gofal Tystion neu'r cyfreithiwr amddiffyn).
Os yw eich plant yn iau na'r oedran ysgol, bydd angen i chi drefnu gofal plant. Gallwch siarad â'r Uned Gofal Tystion neu'r swyddog yn yr achos (OIC) os ydych chi'n dyst i'r erlyniad, neu'r cyfreithiwr amddiffyn os ydych chi'n dyst i'r amddiffyniad, ynglŷn ag hawlio costau gofal plant yn ôl.


Gadewch Sylw