Beth yw'r Gwasanaeth Tystion?
Rydym yn darparu cefnogaeth annibynnol am ddim i dystion yr erlyniad a'r amddiffyniad ym mhob llys troseddol yng Nghymru a Lloegr. Rydym hefyd yn cefnogi aelodau o'r teulu a ffrindiau sydd wedi colli rhywun, ac aelodau o deulu tystion sy'n mynychu'r llys.
Cael cymorth gan y Gwasanaeth Tystion
Os hoffech gael cymorth gan y Gwasanaeth Tystion cyn i chi fynd i'r llys, cysylltwch â ni. P'un a ydych chi'n dyst neu'n weithiwr proffesiynol sy'n cyfeirio tyst at ein gwasanaeth, mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am y ffordd orau o gysylltu.
Gwirfoddolwch gyda ni
Mae'r Gwasanaeth Tystion, a ddarperir gan Gymorth i Ddioddefwyr, yn croesawu pobl sydd eisiau gwirfoddoli i gefnogi dioddefwyr a thystion drwy'r broses llys.

