Cymorth annibynnol am ddim i dystion yng Nghymru a Lloegr

Mae'r Gwasanaeth Tystion yn cael ei gyflwyno i chi gan Gymorth i Ddioddefwyr

Llun o gefnogwr Gwasanaeth Tystion yn siarad â thyst.

Amdanom ni

Beth yw'r Gwasanaeth Tystion?

Mae'r Gwasanaeth Tystion yn helpu pobl i deimlo'n wybodus, yn cael eu cefnogi ac yn fwy hyderus wrth roi tystiolaeth yn y llys.

Rydym yn darparu cefnogaeth annibynnol am ddim i dystion yr erlyniad a'r amddiffyniad ym mhob llys troseddol yng Nghymru a Lloegr. Rydym hefyd yn cefnogi aelodau o'r teulu a ffrindiau sydd wedi colli rhywun, ac aelodau o deulu tystion sy'n mynychu'r llys.

Llun o ddyn a dynes yn cofleidio.

Disgrifiad o'r Delwedd: Llun o dad yn dal ei fab ifanc mewn cofleidiad cysurus, wedi'i gynnwys o fewn yr atalnod llawn oren yn logo'r Gwasanaeth Tystion, yn cyfleu tawelwch meddwl a chefnogaeth.

Cefnogaeth i deuluoedd sydd wedi colli rhywun

Gall y Gwasanaeth Tystion ddarparu cefnogaeth drwy gydol y broses llys os ydych chi'n aelod o'r teulu sydd wedi colli rhywun neu'n ffrind i rywun sydd wedi marw oherwydd trosedd.

Cysylltwch â ni

Cysylltu â'r Gwasanaeth Tystion

Os oes gennych ymholiad am y Gwasanaeth Tystion, cysylltwch â ni:

Dros y ffôn:

0300 332 1000

Trwy'r post:

Cymorth i Ddioddefwyr, Adeilad 3, Parc Busnes y Dwyrain,
Lôn Wern Fawr, Pentref Llaneirwg, Caerdydd, CF3 5EA, DU.

atgyfeiriadau

Cwblhewch ein ffurflen atgyfeirio i gael cefnogaeth

Mae'r ffurflen yn caniatáu ichi ddweud wrthym sut orau i gefnogi eich anghenion, neu anghenion y person rydych chi'n ei gyfeirio.